Llusgwch y geiriau i'r man cywir yn y gerdd.
Y Môr
Rwy’n caru mynd i lan y môr
pan fydd y dydd ar gychwyn,
a gweld y lle yn deffro’n llon
a'r haul yn gwenu’n ______.
Rwy’n hoffi rhoi yr hylif haul
ar fol a chefn a _______
ac yna mynd i redeg ras
i nofio yn y ________.
Rwy’n adeiladu castell mawr
a’i waliau’n llawn o _______,
ac yna dyna hwyl a sbri…
cael gêm i gyfri’r ________.
Rwy’n hedfan barcud fyny fry
a gafael yn y ________,
a theimlo’r gwynt yn tynnu’n gryf
nes cyffwrdd â’r _______.
Rwy’n hoffi bwyta’r hufen iâ,
un gwyn a choch a ______,
ac yna mynd â bat a phêl
i chwarae gêm o ______.